Text Box: Chwefror 2018

 

 

P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu - adnabyddiaeth a chefnogaeth

 

Mae Pwyllgor Deisebau Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ystyried y ddeiseb ganlynol, a gyflwynwyd gan Stevie Lewis:

 

Testun y ddeiseb

 

Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i gymryd camau i adnabod yn briodol a chefnogi’n effeithiol yr unigolion hynny yr effeithir arnynt ac a niweidir gan ddibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn a’r adwaith wrth ddiddyfnu oddi wrthynt.

 

Sefydlwyd y ddeiseb hon i godi ymwybyddiaeth o sefyllfa unigolion yng Nghymru yr effeithir arnynt gan ddibyniaeth ar gyffuriau gwrth-iselder a bensodiasepinau ar bresgripsiwn a’r adwaith wrth geisio diddyfnu oddi wrthynt. Yn benodol gofynnwn i Lywodraeth Cymru gefnogi galwad Cymdeithas Feddygol Prydain ledled y DU am gamau i ddarparu cymorth amserol a phriodol ar gyfer unigolion yr effeithir arnynt.

 

Mae’r term "dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn" yn cyfeirio’n benodol at y sefyllfa lle mae cleifion, ar ôl cymryd eu meddyginiaeth gwrth-iselder neu bensodiasepin yn union fel a ragnodwyd gan eu meddyg, yn gweld na allant roi’r gorau oherwydd yr effeithiau diddyfnu difrifol. Mae’n bwysig nodi yma bod caethiwed a dibyniaeth yn gysylltiedig â’i gilydd, ond yn faterion gwahanol. Mae defnyddio’r term ‘bod yn gaeth’ yn awgrymu bod yr unigolyn yn ymddwyn mewn ffordd benodol er mwyn ceisio pleser. Mae adroddiadau am ddibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn yn y cyfryngau yn parhau i gyfeirio at "camddefnyddio" a "bod yn gaeth" fel pe bai’r claf yn gyfrifol mewn rhyw ffordd am ei niwed ei hun. Mae hyn ymhell o’r gwir. Ni cheir unrhyw bleser o gwbl o sylweddoli eich bod yn dioddef amrywiaeth eang o symptomau corfforol ac emosiynol wrth geisio rhoi’r gorau i’ch meddyginiaeth gwrth-iselder neu gymryd llai ohoni. Mewn rhai achosion, gall y symptomau gyfyngu ar fywyd pobl ac, yn drasig, gallant fod yn angheuol hyd yn oed. Mae ar gleifion angen cydnabyddiaeth ffurfiol, cymorth ac arweiniad i'w helpu drwy eu taith o roi'r gorau i'r feddyginiaeth ac nid yw hynny'n bodoli ar hyn o bryd.

 

 

Mae rhagor o wybodaeth am y ddeiseb, ac ystyriaeth y Pwyllgor ohoni hyd yma, ar gael yma:

http://www.senedd.cynulliad.cymru/mgIssueHistoryHome.aspx?IId=19952

 

Mae'r Pwyllgor wedi cytuno i geisio barn a phrofiadau pobl yr effeithir arnynt gan y mater hwn yng Nghymru. Byddai gennym ddiddordeb arbennig mewn safbwyntiau mewn perthynas â'r canlynol:

 

1.   Eich profiad o ddibyniaeth a diddyfnu mewn perthynas â chyffuriau ar bresgripsiwn.

 

2.   Pa wasanaethau cymorth sydd ar gael i bobl sy'n dioddef o ddibyniaeth a diddyfnu mewn perthynas â chyffuriau ar bresgripsiwn, yn enwedig yng Nghymru, ac a yw'r rhain yn ddigonol?

 

3.   Y graddau y mae dibyniaeth a diddyfnu mewn perthynas â chyffuriau ar bresgripsiwn yn fater sy'n cael ei gydnabod ymhlith gweithwyr iechyd proffesiynol a'r cyhoedd yn gyffredinol.

 

4.   Unrhyw gamau y gellir eu cymryd i wella profiad y rheini yr effeithir arnynt gan ddibyniaeth a diddyfnu mewn perthynas â chyffuriau ar bresgripsiwn, gan gynnwys o ran atal, rheoli a chefnogi.

 

Byddem yn croesawu anfon sylwadau at SeneddDeisebau@cynulliad.cymru  erbyn 16 Mawrth 2018.

 

Gellir cyhoeddi ymatebion fel rhan o bapurau'r Pwyllgor, a byddant yn cael eu trafod yn un o gyfarfodydd y Pwyllgor yn y dyfodol. Rhowch wybod i ni fel rhan o'ch ymateb os nad ydych am i'ch cyfraniad gael ei gyhoeddi.

 

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y ddeiseb hon, cysylltwch â thîm Clercio'r Pwyllgor drwy anfon e-bost at SeneddDeisebau@cynulliad.cymru neu ffonio 0300 200 6379.

 

Yn gywir

 

 

David J Rowlands AC/AM

Cadeirydd